Barn Simon Tait am y Ganolfan

Simon Tait

26 Tach 2014

Tags

Dengmlwyddiant • effaith

Ni chafodd y stori lwyddiannus y gallwn bellach ei hadrodd am Ganolfan Mileniwm Cymru a’r sefydliadau creadigol sydd wedi clystyru o’i chwmpas yn hen ardal y dociau gychwyn addawol o gwbl.

Ym 1994, roedd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd, drwy Ymddiriedolaeth Opera Bae Caerdydd, ar fin atgyfodi’r hen ddociau drwy adeiladu cartref oedd taer ei angen ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), ac enillwyd cystadleuaeth gan Zaha Hadid am ei chysyniad rhyfeddol o ‘balas grisial’ ar gyfer Tŷ Opera a allai gystadlu a’r goreuon fel yn Sydney.

Ond roedd yn well gan Gomisiwn y Mileniwm, un o ddosbarthwyr arian y Loteri Genedlaethol a fyddai’n dod yn un o’r prif gyllidwyr, fuddsoddi eu harian mewn cartref rygbi newydd mwy poblogaidd ar gyfer Caerdydd, sef Stadiwm y Mileniwm. Er hynny, gwyddai Gaerdydd fod rhywbeth mwy na dyfodol opera Cymru yn y fantol: cyfle am barth diwylliannol a fyddai nid yn unig yn atgyfodi Bae Caerdydd ond hefyd yn dangos Cymru i’r byd a’r byd i Gymru. Ysgogodd hyn gynnig newydd megis ffenics yn codi o ludw’r prosiect tŷ opera, ac a fyddai maes o law’n arwain at greu Canolfan Mileniwm Cymru.

Aeth grŵp arloesol oedd yn gweithio ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru bryd hynny, Arglwydd Crughywel, ati i greu cynllun meistr ar gyfer ailddatblygu Bae Caerdydd, oedd yn amlinellu’r safle ar gyfer yr adeilad hwn yn glir.

Trodd y corff newydd hwn at bractis o Gymru, Partneriaeth Percy Thomas fel yr oedd bryd hynny (Capita Architecture erbyn hyn), gyda Jonathan Adams o’r bartneriaeth yn ymateb i’r briff o greu adeilad oedd yn ddigamsyniol Gymreig ond hefyd yn rhyngwladol nodedig. Creodd ganolfan gelfyddydau £106m o ddeunyddiau Cymreig, gan gynnwys 1,350 tunnell o lechi o Ogledd Cymru, pren o goetiroedd wedi eu rheoli yng Nghymru a dur o Bont-y-pŵl yng nghymoedd y De.

Fodd bynnag nid oedd y freuddwyd eto wedi’i hariannu a bu’n rhaid darbwyllo Cynulliad Cymru. Gyda chymorth trawsbleidiol gan y Cynulliad, clustnodwyd hyd at £37m gyda Chomisiwn y Mileniwm yna’n cofleidio’r cynnig diwygiedig, ynghyd a chefnogwyr ariannol hanfodol eraill sef Cyngor Caerdydd a Chyngor Celfyddydau

Ar ol rhoi heibio’r nod gwreiddiol afrealistig o agor y Ganolfan erbyn blwyddyn y Mileniwm, rhoddwyd caniatad cynllunio a dechreuwyd ar y gwaith yn Ionawr 2002. O fewn 22 mis, agorwyd y Ganolfan yn swyddogol gan Ei Mawrhydi’r Frenhines ar 28 Tachwedd 2004 mewn noson gala’n arddangos doniau ser theatr ac opera Cymru, yn ogystal a chwmniau rhyngwladol fel Mariinsky Ballet, Cirque Eloize a Cape Town Opera. Mae’r bragmatiaeth oleuedig a greodd Ganolfan Mileniwm Cymru wedi’n tywys byth ers hynny. Gyrrwyd y prosiect yn ei flaen yn gwbl ddiwyro gan ei Gadeirydd cyntaf, Arglwydd Rowe-Beddoe, a’i fwrdd, cyn penodi Judith Isherwood yn brif weithredwr yn 2003 er mwyn agor y Ganolfan. Roedd Judith wedi llwyddo i drawsnewid Tŷ Opera Sydney o atyniad twristiaeth i fod yn ganolfan gelfyddydau ryngwladol. O’r cychwyn, y nod oedd creu cymuned o gwmniau celfyddydau, a fyddai’n seiliedig nid yn unig ar frics a mortar adeilad eiconig ond ar gohort o breswylwyr, o’r WNO fel y cwmni mwyaf, i Touch Trust fel y cwmni lleiaf. Yn ogystal a chroesawu cyflawniad artistig o Gymru, daeth y Ganolfan yn lleoliad teithiol i sioeau rhyngwladol pwysig fel War Horse y National Theatre, ac mae’n un o’r hoff leoliadau ar gyfer ffilmio – mae’r Ganolfan wedi ymddangos saith gwaith mewn penodau o Doctor Who.

Roedd y blynyddoedd cyntaf yn heriol oherwydd y cymhorthdal cyhoeddus gweddol isel (£750,000 y flwyddyn, dim ond 6% o’r incwm oedd ei angen), ond roedd gan Lywodraeth Cymru ffydd ynddi. Ar ol cynrychiolaeth effeithiol gosodwyd y Ganolfan ar dir ariannol mwy cadarn, ac aeth ei chymhorthdal blynyddol i fyny i £3.6m, neu 19% o’i hincwm – oedd yn dal i fod gryn dipyn yn llai na’r hyn oedd canolfannau tebyg fel y Southbank a’r Barbican yn Llundain yn ei dderbyn, heb son am y Tŷ Opera Brenhinol. Mae cynnydd aruthrol wedi’i wneud gyda’r Ganolfan wedi ennill gwobrau lu, yn fwyaf diweddar fel Theatr Fwyaf Croesawgar y DU yng Ngwobrau Theatr y DU 2014. Ac ar ol ennill ei phlwyf yn genedlaethol a rhyngwladol, mae’r addewid yn fwy cyffrous fyth.

Mae’r cyfarwyddwr artistig newydd, Graeme Farrow, yn cadw’r ffydd gyda’r preswylwyr a’r cwmniau teithiol mawr, ond yn chwilio y tu allan i Gaerdydd a Chymru am gymorth i greu ac ariannu gwaith newydd ac i ateb galwadau gan gynulleidfa fwy a mwyfwy brwdfrydig o hyd. “Mae’r gist drysorau sydd yma’n anhygoel” meddai “ac ni chredaf i ni wneud digon gyda hi eto. Ond mae’n debyg bod hynny am ein bod ond deg oed.”

Hoffi? Beth am rannu?